Croeso / Home superfurry.org/oneeyedbear Gruff Rhys

SFA .  news .  prior .  recordings .  press .  gallery .  list .  links .  pete .  bears

Recordings : Gruff Rhys : 2   |   The Peth

Defaid William Morgan Compilation CD
Defaid William Morgan compilation CD {English text and ordering information follows}
"Ma Pesda Roc yn rhyddhau CD Aml-Gyfrannog dan yr enw Defaid William Morgan ar gyfer wythnos y Steddfod Genedlaethol sy'n dechre ddydd Sadwrn yma Gorff 30 ar Stad y Faenol, Bangor. Mae trac gan Gruff Rhys ar yr albym ~ sef fersiwn byw o un o'i ganeuon oddi ar ei albym unigol (Yr Atal Genhedlaeth) sef trac byw ac egsgliwsif o Rhagluniaeth Ysgafn.

"Dwi wedi atodi llun o glawr y CD fydd ar werth ar stondin Pesda Roc ar faes y Steddfod am �10 ~ bargen! 2,000 o gopiau sydd ar gael felly os fydd rhai ar �l wedi'r Steddfod fe fydd posibl eu cael o siopau neu wefannau amrywiol (gobeithio!)*

"Mae'r CD yn gyflwynedig er cof am y diweddar Ron a Now a fu farw'n ddiweddar ~ dau aelod o'r band git�r poblogaidd cyntaf o ochra Bethesda Hogia Llandegai ond hefyd er cof am un o fawrion cerddoriaeth gyfoes Cymru, y gitarydd Robert "Tich" Gwilym. Bu cyfraniad Tich i gerddoriaeth Gymraeg yn ysbrydoliaeth enfawr i Maffia Mr Huws ac i genhedlaeth gyfan o grwpiau eraill o Ddyffryn Ogwen a Chymru benbaladr.

"Mae gwreiddiau Gŵyl Pesda Roc yn oes aur bwrlwm cerddorol Bethesda ddechrau'r wythdegau. Ugain mlynedd ar �l ei sefydlu gyntaf atgyfodwyd yr Wyl yn 2003 i goffau canmlwyddiant diwedd Streic Fawr y Penrhyn ac fe welwyd sefydlu cynllun cymunedol cerddorol Cwmni Tabernacl Bethesda Cyf a fabwysiadodd yr enw
Pesda Roc ar gyfer eu canolfan a'u gweithgarwch cerddorol.

"Mae gwaith y Cwmni yn ymwneud � hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn lleol, hyrwyddo credigrwydd cerddorol ymysg pobl ifanc a rhoi cyfleoedd amrywiol iddynt ddatblygu eu doniau drwy weithdai roc a phop dan ofal cerddorion amlwg. Mae Pesda Roc hefyd yn cynnal cyfresi o gigs yng Nghlwb Rygbi Bethesda drwy'r flwyddyn ac ambell un yn Neuadd Ogwen. Mae Canolfan Hyfforddi
Pesda Roc, sydd wedi'i lleoli ar y Stryd Fawr ym Methesda, yn cynnig cyrsiau addysg i oedolion mewn cydweithrediad � Chymdeithas Addysg y Gweithwyr gan arbenigo mewn Technoleg Cerddoriaeth ac mae offer o safon ar gael ar gyfer y cyrsiau hynny.

"Dyma gryno ddisg aml-gyfrannog cyntaf Pesda Roc ond nid yr olaf gobeithio!

"Diwedd y g�n yw'r geiniog bob amser ac mae'r cwmni yn ddibynnol ar arian cyhoeddus a phreifat er myn cynnal ei weithgarwch ac ar weithgareddau codi arian. Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cymorth a'u cefnogaeth ariannol i'r cynllun a diolch hefyd i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr am yr Apple Mac sy'n sylfaen i stiwdio Pesda Roc. Cafodd llawer o'r traciau yma eu recordio yn y stiwdio honno sydd ar hyn o bryd dan ofal Arwel
Tromb�n Davies. Bydd elw gwerthiant y cryno-ddisg yn cael ei wario ar ehangu'r stiwdio a'i hail-leoli fel stiwdio gymunedol yng Nghanolfan Hyfforddi Pesda Roc.

"Diolch i'r holl fandiau ac unigolion sydd wedi cefnogi'r fenter hon drwy roi o'u hamser a chyfrannu eu cerddoriaeth i wneud y cryno ddisg yma'n bosib a diolch hefyd i nifer o fandiau eraill a gynigiodd gyfrannu ond na chafodd eu cynnwys y tro hwn oherwydd cyfyngiadau gofod ac amser.

"Mae 22 o draciau i gyd ar y CD ~ 79 muned a 40 eiliad o gerddoriaeth amrywiol gan gerddorion safonol.


Defaid William Morgan compilation CD tracks"Pesda Roc is releasing a compilation CD named after one of Hogia Llandegai's most famous songs Defaid William Morgan for the National Eisteddfod week commencing this Saturday. Gruff Rhys has contributed a live and exclusive track of one of his solo album's track Rhagluniaeth Ysgafn.

"The CD is on sale on the Pesda Roc stall at the National Eisteddfod fod �10 ~ bargain! There is only a limited number of copies ~ 2,000. Hopefully it can be purchased in music shops and Welsh Book shops after the Eisteddfod and from various websites ~ if there are any copies left!
[*see ordering information below].

"The CD includes a wide variety of styles with contributions from 22 past and present luminaries of the Welsh pop, rock and folk scene. They include Gruff Rhys, Geraint Jarman, Bryn F�n, Celt, Estella, Winabego, Alun Tan Lan, Llwybr Llaethog, Lleuwen Steffan, Gwilym Morus and many more.

"The CD is dedicated to the memory of Ron and Now, two members of the first popular guitar band from the Bethesda area, Hogia Llandegai and also to commemorate the guitarist Robert "Tich" Gwilym who died suddenly in Cardiff last month. Tich, whose style and technique as a guitarist were inspirational, was a great influence through his performances and recordings with Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr on a whole generation of Welsh bands.

Gruff Rhys' track is a live recording of Rhagluniaeth Ysgafn whilst Bryn F�n, Geraint Jarman, Estella, Y Brodyr and Celt amongst others have all contributed previously unreleased material.

"Alun Tan Lan has recorded a cover version of Y Cyrffs Eithaf whilst Geraint Ffrancon offers a techno interpretation of Maffia tunes. Zvinovaka is a mesmerising African song sung in Shona by Zimbabwean composer and musician Nebert Chickanza who now lives in Bethesda. He has recently formed the band Shirimafaro with guitarist John Doyle and drummer Dylan "Sgw�r" Edwards.

"The CD includes a wide variety of music and encompasses artists spanning over forty years of the Welsh music scene."

*If you're unable to visit the National Eisteddfod of Wales, you can purchase by mail for �11.99 + p&p. Write Delyth at swyddogdatblygu@tabernacl.co.uk, and let him know you read about the CD on superfurrylogic.com.
28 July, thanks to Delyth Vaughan ~ Swyddog Datblygu

See:
Recordings : asides
Recordings : afore
gruffrhys.com ~ info, lyrics

Home .  SFA .  news .  prior .  recordings .  press .  gallery .  list .  links .  pete .  bears
: albums...   : singles   : compilations   : video & film   : asides   : afore   : beyond   : books   : Gruff Rhys   : 2
recordings : The Peth

oneeeyedbear.com
One-Eyed Bears . ©00-08 Pete Fowler
websitewritingworks . ©96-08 K. A. Hope